Gwybodaeth ddefnyddiol

Gwybodaeth ddefnyddiol

Who Can I Vote For

Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n defnyddio’r gwefan Who Can I Vote For i ffeindio mas pwy sy’n sefyll yn eich ardal chi.

Maniffestos

Adeg etholiadau lleol, mae rhai pleidiau yn cyhoeddi maniffestos lleol, yn sbesiffig i’w hardaloedd lleol nhw.

I ffeindio rhain, y peth orau i wneud yw chwilio am enw eich cyngor lleol (e.e. Wrecsam) ac enw’r plaid rydych chi’n chwilio amdani. Os oes gan y blaid gwefan neu dudalen Facebook sy’n sbesiffig i’ch ardal dylech chi ffeindio’r wybodaeth yma trwy wneud hyn.

Os os rydych chi’n gweld hi’n anodd i ffeindio gwybodaeth, mae rhai pleidiau hefyd yn cyhoeddi maniffestos sy’n berthnasol i Gymru gyfan.

Y pleidiau sy’n sefyll ym mhob cyngor lleol yng Nghymru yw’r Ceidwadwyr, Y Plaid Werdd, Llafur, Y Democratiaid Rhyddfrydol, a Phlaid Cymru.

Os ydy’r pleidiau yma yn cyhoeddi maniffestos cenedlaethol, byddwn ni’n rhoi linc iddyn nhw ar y dudalen hon.

Ceidwadwyr

https://www.conservatives.wales/sites/www.conservatives.wales/files/2022-04/Local%20Government%20Manifesto%20-%20W.pdf

Plaid Werdd

Nid oes maniffesto ar y gwefan yma (ar 13 Ebrill, pan cafodd y dudalen hon ei diweddaru diwethaf)

Llafur

Nid oes maniffesto ar y gwefan yma (ar 13 Ebrill, pan cafodd y dudalen hon ei diweddaru diwethaf)

Democratiaid Rhyddfrydol

Nid oes maniffesto ar y gwefan yma (ar 13 Ebrill, pan cafodd y dudalen hon ei diweddaru diwethaf)

Plaid Cymru

https://www.plaid.cymru/maniffesto

Skip to content