Preifatrwydd

Ein manylion cyswllt

Enw: Comisiynydd Plant Cymru

Rhif ffôn: 01792 765600

E-bost: post@complantcymru.org.uk

Y math o wybodaeth bersonol rydyn ni’n ei chasglu

Ar hyn o bryd rydyn ni’n casglu ac yn prosesu’r wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Cyfeiriad e-bost
  • Rhif ffôn
  • Enw’r ysgol lle rydych chi’n gweithio neu enw’r grŵp rydych chi’n gweithio gyda nhw
  • Cyfeiriad darparwr rhyngrwyd (IP)
  • Ffyrdd o adnabod cwcis

Sut rydyn ni’n casglu’r wybodaeth bersonol a pham mae’r wybodaeth yna gennym ni

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth bersonol rydyn ni’n ei phrosesu yn cael ei darparu’n uniongyrchol i ni gennych chi oherwydd:

– eich bod chi eisiau mynegi diddordeb yn ein gwaith Prosiect Pleidleisio;

– eich bod chi eisiau i ni gysylltu â chi gyda rhagor o wybodaeth am y prosiect a sut gallech chi fod yn rhan ohono

Mae gennym ni hefyd fynediad at wybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, o’r ffynonellau canlynol yn y sefyllfaoedd sy’n dilyn:

  • Pan fydd unigolyn yn gofyn am gymryd rhan, bydd yn cael dewis pleidleisio trwy’r post neu’n electronig. Os bydd yn dewis gwneud yn electronig, bydd yn cael dolen unigryw (URL) i fedru pleidleisio. Mae hynny’n golygu ein bod ni’n gallu gwirio mai unwaith yn unig mae unigolyn wedi pleidleisio. Bydd unrhyw bleidlais sy’n cael ei bwrw trwy ddefnyddio’r ddolen honno yn cael ei chofnodi a’i storio gan Snap Surveys. Gallen ni gael mynediad i’r data yna, ond i ddiogelu eich preifatrwydd chi ac integriti pawb sy’n cymryd rhan yn y prosiect, rydyn ni’n ymrwymo i beidio â chyrchu’r data yna.

Byddwn ni’n defnyddio’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni i gysylltu â chi ynghylch ein gwaith ar y Prosiect Pleidleisio.

Byddwn ni’n rhannu eich gwybodaeth gyda dau sefydliad:

  1. MailChimp, a fydd yn gyfrifol am bostio’r holl gynnwys i’r rhai sydd wedi mynegi diddordeb yn y prosiect; a
  2. Snap Surveys, fydd yn gyfrifol am anfon dolenni unigryw (URLs) i ysgolion, lleoliadau eraill ac unrhyw unigolion sydd am bleidleisio’n electronig, er mwyn iddyn nhw gael mynediad i’w papur pleidleisio electronig

O dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), y sylfaen gyfreithlon rydyn ni’n dibynnu arni ar gyfer prosesu’r wybodaeth hon yw:

(a) Eich cydsyniad. ewch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg. Gallwch wneud hynny trwy gysylltu â Cewch dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg. Gallwch wneud hynny trwy gysylltu â prosiectpleidlais@complantcymru.org.uk

Sut rydyn ni’n storio eich gwybodaeth bersonol

Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio yn ddiogel ar ein serfwr.

Byddwn ni’n cadw eich gwybodaeth am gyfnod o 12-mis. Yna byddwn ni’n gwaredu eich gwybodaeth trwy ddileu’n barhaol bob copi o’r gronfa ddata lle mae eich gwybodaeth yn cael ei storio.

Byddwn hefyd yn gofyn, trwy’r contractau fydd gennym ni gyda nhw, bod y ddau sefydliad y byddwn ni’n rhannu eich manylion gyda nhw – MailChimp a Snap Surveys – yn dileu pob copi o’ch manylion cyswllt yn barhaol ar ddiwedd ein contract gyda nhw.

Eich hawliau diogelu data

O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych chi hawliau sy’n cynnwys:

Eich hawl i ddileu – Mae gennych chi hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol

Eich hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych chi hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol o dan rai amgylchiadau

id oes gofyn i chi dalu o gwbl am ymarfer eich hawliau. Os byddwch yn gwneud cais, bydd gennym ninnau fis i ymateb i chi.

Cysylltwch â ni yn post@complantcymru.org.uk os ydych am gyflwyno cais.

Sut mae cwyno

Os bydd gennych chi unrhyw bryderon am ein defnydd o’ch gwybodaeth bersonol, gallwch chi gyflwyno cwyn i ni ar post@complantcymru.org.uk neu 01792 765600

Hefyd gallwch chi gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) os ydych chi’n anfodlon ar sut rydyn ni wedi defnyddio’ch data.

Cyfeiriad yr ICO:

Information Commissioner’s Office

Wycliffe House

Water Lane

Wilmslow

Cheshire

SK9 5AF

Rhif y llinell gymorth: 0303 123 1113

Gwefan yr ICO: https://www.ico.org.uk

Skip to content