Archif adnoddau

Rydyn ni wedi creu cynlluniau gwers i helpu paratoi pobl ifanc i gymryd rhan yn ein hetholiad paralel. Rydyn ni wedi cyhoeddi rhain fel dogfennau Word, fel eich bod chi’n gallu eu lawrlwytho a’u haddasu i’ch siwtio chi.

Gwerthuso/myfyrio

Cyfle i bobl ifanc i gymharu canlyniadau yr etholiad paralel gyda chanlynidau yr etholiad go iawn, ac i fyfyrio ar gymryd rhan yn y Prosiect Pleidlais.

Rydyn ni wedi rhannu y cyflwyniadau i Ranbarthau:

Gogledd Cymru: Aberconwy; Alun a Glannau Dyfrdwy; Arfon; De Clwyd; Gorllewin Clwyd; Delyn; Dyffryn Clwyd; Wrecsam; Ynys Mon

Canolbarth a Gorllewin Cymru: Brycheiniog a Sir Faesyfed; Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr; Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro; Ceredigion; Dwyfor Meirionnydd; Llanelli; Sir Drefaldwyn; Preseli Sir Benfro

Dwyrain De Cymru: Blaenau Gwent; Caerffili; Islwyn; Merthyr Tudful & Rhymni; Mynwy; Dwyrain Casnewydd; Gorllewin Casnewydd; Torfaen

Canol De Cymru: Canol Caerdydd; Gogledd Caerdydd; De Caerdydd a Phenarth; Gorllewin Caerdydd; Cwm Cynon; Pontypridd; Rhondda; Bro Morgannwg

Gorllewin De CymruAberafan; Pen-y-Bont ar Ogwr; Gwyr; Castell-Nedd; Ogwr; Gorllewin Abertawe; Dwyrain Abertawe

Wyneb-yn-wyneb: Gwers 1

Amcanion dysgu

  1. Bydd dysgwyr yn gwybod bod eu hysgol yn cymryd rhan yn y Prosiect Pleidlais
  2. Bydd dysgwyr yn gallu cysylltu elfennau o’u bywydau eu hunain â gwleidyddiaeth
  3. Bydd dysgwyr yn gwybod bod Cymru’n creu ei chyfreithiau ei hun mewn rhai meysydd, a bod hynny ar wahân i wledydd eraill y DU
  4. Mae dysgwyr yn deall mwy am bleidleisio a pham ei fod yn bwysig

Pecyn Dysgu Adref - Gwers 1

Mae’r pecyn yma yn fersiwn mwy syml o wers wyneb-yn-wyneb 1.

Amcanion dysgu

  1. Bydd dysgwyr yn gwybod bod eu hysgol yn cymryd rhan yn y Prosiect Pleidlais
  2. Bydd dysgwyr yn gallu cysylltu elfennau o’u bywydau eu hunain â gwleidyddiaeth
  3. Bydd dysgwyr yn gwybod bod Cymru’n creu ei chyfreithiau ei hun mewn rhai meysydd, a bod hynny ar wahân i wledydd eraill y DU

Wyneb-yn-Wyneb: Gwers 2

Amcanion dysgu

  1. Bydd dysgwyr yn dysgu mwy am etholiadau a’r Senedd
  2. Bydd dysgwyr yn gwybod beth yw eu hetholaeth, beth yw eu rhanbarth, a phwy yw eu cynrychiolwyr presennol a beth maen nhw’n ei wneud
  3. Bydd dysgwyr yn deall yr hyn y mae aelod o’r Senedd yn ei wneud, pam y byddent yn cysylltu âg AS, a sut i wneud hyn
  4. Bydd dysgwyr yn deall beth yw plaid a beth maen nhw’n ei wneud

Wyneb-yn-Wyneb: Gwers 3

Amcanion dysgu

Bydd y wers hon yn helpu dysgwyr i benderfynu i bwy i bleidleisio amdanyn nhw yn yr etholiad paralel trwy ddarllen maniffestos pleidiau gwleidyddol.

Rydyn ni wedi ysgrifennu at bob plaid wleidyddol sydd ag ymgeisydd ym mhob etholaeth i ofyn iddyn nhw ysgrifennu fersiynau pobl ifanc o’u maniffestos, yn benodol ar gyfer Prosiect Pleidlais.

Cynlluniau gwers hygyrch

Mae’r gwersi yma’n cynnig fersiwn mwy syml a hygyrch o’r cynlluniau gwers uchod. Gallech chi eu defnyddio mewn lleoliad lle mae angen help ychwanegol ar bobl ifanc, e.e. mewn ysgol arbennig.

Maen nhw’n cynnwys sgaffaldwaith i gefnogi dysgu a dealltwriaeth disgyblion.

Amcanion dysgu

  1. Bydd dysgwyr yn gwybod bod eu hysgol yn cymryd rhan yn Prosiect Pleidlais 2021
  2. Bydd dysgwyr yn gallu cysylltu elfennau o’u bywydau eu hunain â gwleidyddiaeth
  3. Bydd dysgwyr yn dysgu mwy am etholiadau a’r Senedd
  4. Mae dysgwyr yn deall mwy am bleidleisio a pham ei fod yn bwysig

Canllaw hystingau ar gyfer ysgolion

Cyfarfod yw hystingau lle bydd ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiad i ddod yn aelodau o’r Senedd yn cael eu holi gan gynulleidfa.

Os ydych chi fel ysgol eisiau trefnu cyfarfod hystingau, rydyn ni wedi ysgrifennu canllaw i’ch helpu chi.

Adnoddau Ychwanegol

Eleni yng Nghymru bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn yr etholiad Senedd go iawn, a gynhelir ar y 6ed o Fai. Mae sefydliadau eraill wedi gwneud adnoddau i helpu’r bobl ifanc hyn i ddeall eu pleidlais. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gyflwyno gwersi i’ch disgyblion eich hun, neu i ategu unrhyw waith y gallech fod yn ei wneud i helpu pobl ifanc hŷn i baratoi i bleidleisio mewn bywyd go iawn.

Y Senedd

Y Comisiwn Etholiadol

Skip to content