Canlyniadau
Derbyniwyd dros 3000 o bleidleisiau yn etholiad lleol paralel cyntaf erioed i bobl ifanc 11-15 oed yng Nghymru
- Derbyniwyd pleidleisiau yn 19 cyngor lleol
- Llafur oed y blaid gyda’r nifer mwyaf o bleidleisiau, wedyn Plaid Cymru
- Cafodd Llafur y nifer mwyaf o bleidleisiau mewn 10 cyngor gwahanol. Plaid Cymru oedd ail – cafon nhw y nifer mwyaf o bleidleisiau mewn 3 cyngor gwahanol.
- Cafodd ymgeiswyr annibynnol 345 pleidlais, felly roedden nhw’n 3ydd o ran nifer y pleidleisiau.
- Dywedodd 58% o bobl ifanc a gwblhaodd holiadur ar ôl cymryd rhan eu bod nhw nawr yn fwy tebygol o bleidleisio mewn etholiadau lleol pan maen nhw’n ddigon hen
Roedd cannoedd o bleidleisiau mewn rhai etholaethau, tra bod nifer isel mewn eraill. Rydyn ni wedi cyhoeddi’r canlyniadau i gyd fel bod pob pleidlais yn cael ei gyfrif.
Ein dull
Oherwydd y nifer uchel o wardiau unigol ar draws Cymru, ar linciau pleidleisio pobl ifanc rhestron ni yr holl bleidiau a oedd yn sefyll ar draws y sir, yn hytrach na chreu linc unigol ar gyfer pob ward a rhestru enw pob ymgeisydd.
Ein cyfarwyddiadau i bobl ifanc oedd i:
- Benderfynu am ba ymgeisydd lleol i bleidleisio drostynt, gan ddefnyddio côd post eu hysgol neu glwb. Awgrymon ni hyn er mwyn gwneud hi’n haws i bobl ifanc i gydweithio i ymchwilio eu hymgeiswyr lleol, ac i wneud hi’n haws i athrawon/arweinwyr grwp i gefnogi pobl ifanc.
- nodi pa blaid mae’r ymgeisydd yn ei gynrychioli, neu nodi os ydyn nhw’n ymgeisydd annibynnol.
- Ffeindio’r blaid gywir ar y linc pleidleisio. Neu ddewis ‘ymgeisydd annibynnol’ os ydyn nhw wedi penderfynu pleidleisio am ymgeisydd annibynnol.
Ein map canlyniadau
Mae ein map canlyniadau yn dangos y pleidiau a dderbyniodd y mwyafrif o bleidleisiau ym mhob cyngor, yn hytrach na’r pleidiau a enillodd mwyafrif.
Cyfran y bleidlais genedlaethol
Plaid | % |
---|---|
LLAF |
36%
|
PLAID |
14%
|
ANNI |
11%
|
CEID |
9%
|
PW |
9%
|
DRh |
6%
|
PROP |
2%
|
PCGP |
2%
|
Eraill |
6%
|
Mae’r graff uchod yn dangos canran y pleidleisiau derbyniodd y pleidiau ar draws Cymru.
I weld pa blaid enillodd yn eich ardal chi drwy’r etholiad paralel, defnyddiwch y map interactif neu sgroliwch i waelod y dudalen am esboniad manwl o’r pleidleisiau ym mhob ardal.