Amdanon Ni

Etholiad paralel i bobl ifanc 11-15 oed yw’r Prosiect Pleidlais. Eleni mae’n cydfynd gydag etholiadau lleol Cymru ym Mis Mai 2022.

Comisiynydd Plant Cymru sy’n gyfrifol am y Prosiect Pleidlais, gyda chefnogaeth ERS Cymru.

Cyd-destun

Fis Mai 2021 cynhalion ni etholiad paralel cyntaf Cymru i bobl ifanc 11-15 oed, i gydfynd gydag etholiad y Senedd.

Pleidleisiodd pobl ifanc dros yr ymgeiswyr go iawn yn eu hetholaethau, a chyhoeddwyd canlyniadau paralel fel eu bod nhw’n gallu cymharu’r etholiad paralel gyda’r etholiad swyddogol.

Roedd dros 10,000 o bleidleisiau gan bobl ifanc 11-15 oed o ysgolion uwchradd a chlybiau ieuenctid ar draws Cymru. Dywedodd 60% trwy holiadur gwerthuso bod cymryd rhan wedi gwneud nhw’n fwy tebygol o bleidleisio yn y dyfodol.

Etholiadau lleol 2022

Yn dilyn llwyddiant flwyddyn ddiwethaf, mae gennym ni gyfle tebyg iawn i ysgolion a chlybiau ieuenctid, tro yma yn ffocysu ar etholiadau lleol 2022.

Bydd pobl ifanc yn:

  • dysgu mwy am rôl eu cyngor sir a sut mae ei benderfyniadau yn effeithio arnynt.
  • cael y cyfle i ymchwilio eu hymgeiswyr lleol ac i bleidleisio dros blaid leol, neu ymgeisydd annibynnol.

Byddwn ni wedyn yn cyhoeddi canlyniadau fel eu bod yn gallu cymharu eu pleidleisiau gyda chanlyniadau’r etholiadau go iawn.

Bydd y cynnig i ysgolion a chlybiau ieuenctid yn addas i’r cwricwlwm newydd ac yn cynnwys:

  • Gweithgareddau syml i helpu plant i ddeall eu cyngor lleol, eu ward etholiadol, a phwysigrwydd y bleidlais
  • Deunyddiau dysgu i bobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol
  • Cyngor i bobl ifanc ar ffeindio gwybodaeth ar bwy sy’n sefyll yn eu hardal leol
  • Pleidleisio ar-lein syml

Amserlen

  • Mae hawl i ysgolion a chlybiau ieuenctid cofrestru i gymryd rhan nawr Trwy gofrestru, bydd ysgolion a chlybiau yn sicrhau eu bod nhw’n derbyn e-bost pan rydyn ni’n cyhoeddi ein hadnoddau
  • Bydd ein hadnoddau yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan erbyn y Nadolig, fel bod ysgolion a chlybiau yn gallu eu defnyddio yn y flwyddyn newydd
  • Bydd pleidleisio arlein ar agor rhwng Mai 3-5
  • Ni fydd canlyniadau yn cael eu cyhoeddi tan fod y pleidleisio go iawn yn gorffen

Lleoliadau 11-16

Os ydych chi’n athro mewn lleoliad 11-16, gan gynnwys ysgolion uwchradd, ysgolion arbennig, ac UCDau, gallwch chi ymuno’n syml trwy ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost.

Trwy gofrestru, byddwch chi’n rhoi eich manylion i ni fel ein bod ni’n gallu anfon:

  • lincs i gynlluniau gwers pan maen nhw’n barod
  • linc i’ch e-bleidlais ym mis Mai

Ddim mewn lleoliad 11-16?

Os ydych chi’n gweithio mewn lleoliad gwahanol, fel ysgol gynradd, neu glwb ieuenctid, ac rydych chi’n dal yn awyddus i fod yn rhan o’r Prosiect Pleidleisio, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

Addysgu gartref?

Os ydych chi’n addysgu gartref, neu’n berson ifanc sy’n cael eich addysg gartref, ac eisiau cymryd rhan, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Ewch i’n tudalen adnoddau i weld adnoddau a luniwyd ar gyfer dysgu gartref.

3-5 Mai - Pleidleisio

Bydd pob ysgol a chlwb ieuenctid sy’n cofrestru yn derbyn e-bleidlais ar 3 Mai. Gyd bydd angen ei wneud gyda hyn yw ei anfon ymlaen at bobl ifanc sy’n cymryd rhan.

Bydd hyn ar agor tan 5 Mai.

Skip to content