Pryd fydd ysgolion uwchradd yn derbyn slipiau pleidleisio electroneg?
Bydd ysgolion yn derbyn slipiau pleidleisio electronig ar 3 Mai. Bydd ysgolion yn gallu eu defnyddio tan diwedd dydd ar 5 Mai.
Beth os nad ydw i mewn ysgol uwchradd ac rydw i eisiau cymryd rhan?
Plis ewch i’n tudalen cofrestru a dewisiwch yr opsiwn ‘ddim yn rhan o leoliad 11-16’ i ddysgu mwy am gymryd rhan.
Beth fyddwn ni’n ei wneud â gwybodaeth bersonol rydyn ni’n ei chyflwyno ar y wefan?
Oes modd defnyddio’r adnoddau fel rhan o ddysgu o bell?
Rydyn ni wedi llunio pecyn yn benodol ar gyfer dysgu o bell, ar ein tudalen adnoddau.
Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi ymuno?
Os ydych chi wedi ymuno o leoliad 11-16, fydd dim angen i chi aros am unrhyw beth arall.
Gallwch ddechrau defnyddio y gwersi gyda phobl ifanc.
Byddwn i’n anfon linc i chi i’ch e-bleidlais ar 3 Mai.
Yn y cyfamser, os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.
Os ydych chi wedi llenwi ffurflen i gysylltu â ni, neu i ofyn am gymryd rhan o leoliad gwahanol, byddwn ni’n ceisio ymateb cyn gynted â phosib.