Canlyniadau
Derbyniwyd bron 10,000 o bleidleisiau yn etholiad Senedd baralel cyntaf erioed i bobl ifanc 11-15 oed
- Derbyniwyd pleidleisiau yn 36 o’r 40 etholaeth, sy’n golygu bod gan y Senedd baralel 56 sedd.
- Fe wnaeth mwy na 1 ym mhob 20 person ifanc yng Nghymru 11-15 oed gymryd rhan
- Plaid Cymru yw’r blaid fwyaf gydag 19 sedd; Llafur sydd nesaf gydag 17
- Mae 7 plaid wedi ennill seddau yn yr etholiad paralel, yn cynnwys tri phlaid sydd heb wedi ennill seddau yn y Senedd o’r blaen
- Dywedodd 59% o bobl ifanc a gwblhaodd holiadur ar ôl cymryd rhan eu bod nhw nawr yn fwy tebygol o bleidleisio yn etholiad y Senedd pan maen nhw’n ddigon hen
Roedd cannoedd o bleidleisiau mewn rhai etholaethau, tra bod nifer isel mewn eraill. Rydyn ni wedi cyhoeddi’r canlyniadau i gyd fel bod pob pleidlais yn cael ei gyfrif.
Cyfran y bleidlais etholaethol
Plaid | % |
---|---|
LLAF |
29%
|
PLAID |
28%
|
CEID |
11%
|
DRh |
10%
|
PW |
8%
|
REF |
4%
|
AB |
2%
|
FA |
2%
|
PROP |
2%
|
ANNI |
2%
|
Eraill |
2%
|
Mae’r graff uchod yn dangos canran y pleidleisiau derbyniodd y pleidiau yn y bleidlais etholaeth (y bleidlais gyntaf).
Mae’n cyfri’r holl bleidleisiau ar draws Cymru.
I weld pa blaid enillodd yn eich etholaeth chi drwy’r etholiad paralel, defnyddiwch y map interactif neu sgroliwch i waelod y dudalen am esboniad manwl o’r pleidleisiau ym mhob etholaeth.